Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 52(5)(a) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 i'w gymeradwyo drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

2012 Rhif (Cy.  )

IECHYD MEDDWL, CYMRU

Gorchymyn Iechyd Meddwl (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

At ddibenion Rhannau 2 a 3 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (“y Mesur”), mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn darparu nad yw gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol sy'n cael eu rhoi ar gael mewn ardal awdurdod lleol benodol o dan gynllun i’w hystyried fel gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd yn yr ardal awdurdod lleol honno.

Effaith erthygl 3 yw’r canlynol: nid yw'r gofynion sy'n ymwneud â chydgysylltu a chynllunio gofal a thriniaeth a ddarperir gan Ran 2 o'r Mesur yn gymwys i unigolyn nad yw ond yn derbyn y gwasanaethau neu driniaeth sy'n cael eu rhoi ar gael fel gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn yr ardal awdurdod lleol lle y mae preswylfa arferol yr unigolyn hwnnw. Hefyd, ni fydd unigolyn nad yw ond wedi derbyn gwasanaethau o'r fath yn gymwys ar gyfer asesiad o dan Ran 3 o'r Mesur.

Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn darparu y bydd  gwasanaethau yn Lloegr, yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon, sy'n gyfwerth â gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd a ddarperir yng Nghymru, yn cael eu hystyried yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd at ddibenion penodol yn Rhan 3 o'r Mesur.

Effaith erthygl 4 yw galluogi oedolion sydd wedi derbyn y gwasanaethau hynny yn Lloegr, yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon, ond sydd bellach yn preswylio yng Nghymru, i fod yn gymwys ar gyfer asesiad o dan Ran 3 o'r Mesur, ar yr amod eu bod yn bodloni'r meini prawf ar gyfer yr hawl a ddarperir yn adran 22 o'r Mesur.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan y Tîm Deddfwriaeth Iechyd Meddwl, Yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 52(5)(a) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 i'w gymeradwyo drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

2012 Rhif (Cy.  )

IECHYD MEDDWL, CYMRU

Gorchymyn Iechyd Meddwl (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2012

Gwnaed                                                2012

Yn dod i rym                          6 Mehefin 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 49(4) a 52(2) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010([1]).

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 52(5)(a) o'r Mesur, a’i gymeradwyo gan benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Meddwl (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2012, a daw i rym ar 6 Mehefin 2012.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli 

2. Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

Ystyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd at ddibenion Rhannau 2 a 3 o'r Mesur

3. Nid yw gwasanaethau a thriniaeth sydd yn cael eu rhoi ar gael fel gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol([2]) mewn ardal awdurdod lleol benodol o dan gynllun([3]) i'w hystyried fel gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd([4]) at ddibenion Rhan 2 (cydgysylltu a chynllunio gofal ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd) a Rhan 3 (asesiadau ar ddefnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd) o'r Mesur yn yr ardal awdurdod lleol honno.

Ystyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd at ddibenion hawl i asesiad yn Rhan 3 o'r Mesur

4. Mae gwasanaeth a ddarperir yn Lloegr, yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon, sy'n gyfwerth â  gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd a ddarperir yng Nghymru, i’w ystyried yn wasanaeth iechyd meddwl eilaidd at ddibenion adran 22 (hawl i asesiad) ac adran 23 (asesiadau: y cyfnod rhyddhau perthnasol) o'r Mesur.

 

 

 

 

 

 

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

Dyddiad

 



([1])           2010 mccc 7.

([2])           Gweler adran 5 (ystyr “gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol”) o'r Mesur am ystyr gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol.

([3])           Gweler adran 2 (cynlluniau ar y cyd ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol) ac adran 4 (methiannau i gytuno ar gynlluniau) o'r Mesur sy'n ymwneud â chynlluniau ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol mewn ardaloedd awdurdod lleol.

([4])           Gweler adran 49 (ystyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd) o'r Mesur am ystyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd.